Dathlu annibyniaeth Sudan
Mae Sudan a De Sudan, a holltodd yn ddwy wlad y llynedd, yn ffraeo dros bwy sy’n berchen ar dref olew sydd ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Dyw’r ffin ddim wedi ei ddiffinio yn iawn eto ac mae yna bryder y gallai’r ddwy wlad fynd i ryfel er mwyn hawlio’r dref.

Yr wythnos ddiwethaf meddiannodd milwyr o Dde Sudan dref Heglig, sy’n cael ei alw’n Panthou yn y de, gan ddenu beirniadaeth gan y Cenhedloedd Unedig.

Heddiw cyhoeddodd llefarydd ar ran Arlywydd De Sudan, Salva Kiir, eu bod nhw’n bwriadu tynnu eu milwyr oddi yno am dri diwrnod.

Ond ychwanegodd eu bod nhw’n parhau i gredu maen nhw oedd piau’r dref.

Dywedodd Salva Kiir y bydd rhaid i ganolwyr rhyngwladol benderfynu pwys oedd piau’r dref.

Yn dilyn ei gyhoeddiad honnodd gweinidog amddiffyn Sudan bod eu milwyr nhw wedi maeddu rhai De Sudan a’u gyrru nhw allan o’r dref.

Serch hynny, mae llywodraeth De Sudan yn honni eu bod nhw yno o hyd, ac na fydden nhw’n addo gadael y dref os oedden nhw eisoes wedi ffoi.