Mosg yn Aceh
Cafodd 10 o ddynion a merched eu chwipio â chansennau yn gyhoeddus am hapchwarae ac ymddwyn mewn modd anfoesol yn Indonesia.
Mae cyfraith Islamaidd rhanbarth Aceh yn cosbi unrhyw gamymddwyn anfoesol.
Dywedodd swyddfa’r erlynydd Putra Masduri bod naw o bobol wedi eu chwipio â chansen rhwng pedwar a 12 o weithiau am hapchwarae.
Cafodd dau arall – dyn a dynes – eu chwipio naw o weithiau’r un ar ôl i gymdogion ddod o hyd iddynt yn noethlymun yng nghwmni ei gilydd.
Chwipiwyd y cyfan o flaen tyrfa mewn cae yn Langsa, prifddinas Dwyrain Aceh.
Mae Indonesia, y wlad Fwslimaidd fwyaf poblog yn y byd, yn caniatáu i ranbarth ceidwadol Aceh arfer crefydd Sharia.