Anders Breivik
Mae’r achos llys yn erbyn dyn sydd wedi cyfaddef iddo ladd 77 o bobl yn Norwy wedi dechrau heddiw.
Ond mae Anders Behring Breivik, 33, wedi gwrthod awdrudod y llys ac yn anfodlon derbyn bod yr achos yn ddilys.
Mae disgwyl i Breivik, 33, roi tystiolaeth am bum niwrnod, gan egluro sut roedd wedi gosod bom yn Oslo, gan ladd wyth, ac yna wedi saethu’n farw 69 o bobl, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn eu harddegau, ar ynys Utoya, ger prifddinas Norwy.
Mae Breivik eisoes wedi cyfaddef iddo gyflawni’r ymosodiadau ar 22 Gorffennaf y llynedd gan honi eu bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu Norwy rhag Moslemiaid.
Yr hyn fydd yn dwyn sylw yn ystod yr achos fydd cyflwr meddyliol Breivik, i benderfynu a ddylid ei anfon i garchar neu gael gofal seiciatryddol.
Er mwyn profi nad yw’n wallgof mae wedi gwahodd eithafwyr adain dde i roi tystiolaeth yn ystod yr achos, er mwyn dangos bod na eraill sydd â’r un daliadau ag ef.
Mae wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau o derfysgaeth a llofruddiaeth bwriadol, gan ddweud ei fod yn amddiffyn ei hun.
Mae rhai o’r bobl oedd wedi goroesi’r ymosodiadau wedi cyrraedd y llys bore ma er mwyn dilyn yr achos.