Anders Breivik
Fe fydd yr achos yn erbyn dyn sydd wedi cyfaddef iddo ladd 77 o bobl yn Norwy yn cychwyn heddiw.

Ond mae na bryderon y bydd Anders Breivik yn ceisio tynnu sylw at ei ddaliadau radical yn ystod yr achos.

Mae disgwyl i Breivik, 33, roi tystiolaeth am bum niwrnod, gan egluro sut roedd wedi gosod bom yn Oslo, gan ladd wyth, ac yna wedi saethu’n farw 69 o bobl, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn eu harddegau, ar ynys Utoya, ger prifddinas Norwy.

Mae Breivik eisoes wedi cyfaddef iddo gyflawni’r ymosodiadau ar 22 Gorffennaf y llynedd gan honi eu bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu Norwy rhag Moslemiaid.

Roedd na gwestiynau wedi codi am ei gyflwr meddyliol ond fe roedd ail asesiad wedi dod i’r casgliad yr wythnos ddiwethaf fod Breivik yn ei iawn bwyll.