Arlywydd Assad Syria
Mae milwyr byddin Syria wedi bod yn ymosod ar ddwy ardal ng nghanol dinas Homes heddiw, yn ôl adroddiadau gan ymgyrchwyr hawliau dynol.

Daw’r ymosodiadau er gwaethaf addewid i gadw at gadoediad oedd wedi’i drefnu gan y Cenhedloedd Unedig.

Daw’r adroddiadau deuddydd ar ôl i gadoediad a oedd wedi ei drefnu gan y cennad rhyngwladol Kofi Annan.

Nid yw’r weinyddiaeth yno yn caniatáu i newyddiadurwyr na sylwebwyr o dramor gael mynediad i’r wlad, felly mae’n anodd cadarnhau’r adroddiadau.

Dywedodd Arsyllfa Hawliau Dynol Syria bod yr ymosodiad wedi parhau am tua dwy awr ac nad oedden nhw’n gwybod am unrhyw un oedd wedi eu hanafu.

Dywedodd yr ymgyrchydd Tarek Badrakhan, sydd yn gweithio yn Homs, bod y fyddin wedi targedu ardaloedd Jouret el-Shayah a Qarabees.