Kim Jong Un
Mae ymgais Gogledd Korea i anfon roced i’r gofod wedi methu, medd asiantaeth newyddion y wlad.

Mae’n debyg bod y roced wedi datgymalu yn ddarnau mân uwchben y Môr Melyn munud yn unig ar ôl cael gadael y ddaear.

Dywedodd asiantaeth newyddion y wlad fod gwyddonwyr a thechnegwyr yn ymchwilio i beth achosodd y roced i fethu.

Roedd Gogledd Korea wedi dweud mai’r bwriad oedd anfon lloeren i’r gofod, ond mae’r Unol Daleithiau wedi ei alw’n “daflegryn” gan ychwanegu fod y lansiad yn “bryfoclyd”.

Mewn ymateb i’r lansiad mae Washington wedi datgan ei fod yn atal cynlluniau i gyfrannu cymorth bwyd i Ogledd Korea.

Roedd y cymorth yn ddibynnol ar fod benderfyniad Gogledd Korea i atal ei raglen niwclear.