Nigeria
Ffrwydrodd bom car ar stryd brysur yng nghanol dinas yn Nigeria’r bore ma, gan ladd o leiaf 38 o bobol.

Mae talaith Kaduna wedi bod yn ganolbwynt i ymosodiadau crefyddol, ethnig a gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffrwydrodd y bom yn y brifddinas Kaduna, gan adael malurion a darnau llosgedig o geir a beiciau modur ar ei ôl.

Roedd ffenestri gwestai a thai bwyta gerllaw wedi eu chwythu’n deilchion gan rym y ffrwydrad.

Yn ogystal â’r 38 a fu farw, mae nifer wedi dioddef anafiadau difrifol ac yn derbyn triniaeth mewn ysbyty cyfagos, meddai’r gwasanaethau brys.

Cafodd eglwys Gristnogol gyfagos, a oedd yn cynnal gwasanaeth i ddathlu Sul y Pasg, hefyd ei difrodi gan y ffrwydrad.

Dywedodd llygaid dystion eu bod nhw wedi gweld y car yn ceisio cael mynediad i’r eglwys cyn ffrwydro.