Jerwsalem
Mae miloedd o Gristnogion wedi dathlu Sul y Pasg yn Jerwsalem, heddiw.

Canolbwynt y dathliadau oedd Eglwys y Beddrod Sanctaidd, lle y mae rhai yn credu y cafodd Iesu ei groeshoelio.

Roedd Prif Weinidog yr Eidal, Mario Monti, ymysg y rheini ymwelodd â’r Eglwys, gan ysgwyd llaw â phererinion a siarad â mynachod yn Ninas Hynafol Jerwsalem.

Y tu allan i furiau’r ddinas, canodd tua 350 o Brotestaniaid gerddoriaeth efengylaidd ym Meddrod yr Ardd, lle y mae rhai yn credu y cafodd Iesu ei gladdu.

Bydd yr Eglwys Uniongred yn dathlu Sul y Blodau heddiw a’r Pasg yr wythnos nesaf.