Baner Ynysoedd y Malvinas
Mae Llywodraeth San Steffan wedi condemnio’r protestwyr wnaeth ymosod ar Lysgenhadaeth Prydain ym Muenos Aires ddoe.
Digwyddodd y protest treisgar wrth i nifer o ddigwyddiadau cael eu cynnal ym Mhrydain a’r Ariannin i gofio am Ryfel y Malvinas 30 mlynedd yn ôl.
Mi wnaeth cannoedd o brotestwyr ymosod ar yr heddlu gyda bomiau cartref, gan daflu cerrig a photeli tuag at adeilad y Llysgenhadaeth.
Roedd Arlywydd yr Ariannin, Cristina Fernandez de Kirchner, wedi tanio’r fflamau trwy ddweud fod y ffaith fod Prydain yn rheoli ynysoedd y Malvinas yn annheg.
Ond fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain David Cameron fod yn rhaid i’r ynyswyr gael yr hawl i ddewis eu statws cenedlaethol eu hunain.
Mae’r Swyddfa Dramor heddiw wedi condemnio’r protestio, gan ei alw yn “weithredu treisgar gan leiafrif”.
Dywedodd llefarydd eu bod nhw’n disgwyl i Lywodraeth yr Ariannin amddiffyn y Llysgenhadaeth yn ôl ei hymrwymiad i Gonfensiwn Fienna.