Bydd dyn sy’n cael ei ddrwgdybio o fod yn derfysgwr yn herio penderfyniad  i’w anfon i Sbaen i wynebu cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Eneko Gogeaskoetxea Arronategui, 44, yn wynebu cyhuddiadau o fod yn rhan o fudiad arfog Euskadi Ta Askatasuna (ETA) sy’n hawlio annibyniaeth i Wlad y Basg.

Mae’n wynebu cyhuddiadau gan gynnwys anelu lanswyr grenadau at Faes Awyr Barajas Madrid a gorsaf heddlu yn Sbaen.

Dyfarnodd y Barnwr Rhanbarth Daphne Wickham ym mis Ionawr y gallai gael ei anfon i Sbaen i wynebu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Ond gollyngwyd cyhuddiad o geisio lladd y Brenin Juan Carlos yn 1997 ac o drefnu lladrad arfog yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon San Steffan yn Llundain ym mis Ionawr.

Deallir y bydd awdurdodau Sbaen yn apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Heddiw fe fydd Eneko Gogeaskoetxea yn galw ar yr Arglwydd Ustus Laws a’r Ustus Griffith Williams i ddiddymu’r penderfyniad i’w anfon yn ôl i Sbaen.

Mae wedi ei gyhuddo o ymuno â grŵp terfysgol Eta yn 1996 ac yna cymryd rhan mewn cynllun i ladd Brenin Sbaen wrth iddo ymweld ag Amgueddfa Guggenheim yn Bilbao ar 18 Hydref, 1997.

Cafodd Eneko Gogeaskoetxea ei arestio yng Nghaergrawnt ym mis Gorffennaf y llynedd.