Protest yn Cairo
Mae degau o filoedd o brotestwyr wedi ymgynull yn Cairo gyda’r nod o annog yr Arlywydd Hosni Mubarak i adael yn syth.

Mae’r Arlywydd eisoes wedi dweud na fydd yn sefyll mewn etholiadau ym mis Medi ond dyw hynny ddim yn ddigon i rai o’r protestwyr.

Roedd gan y fyddin bresenoldeb cryf ar Sgwâr Tahrir, Cairo, heddiw, ar ôl protestio mawr yno dros y dyddiau diwethaf.

Cafodd cannoedd eu hanafu yno ar ôl brwydro ffyrnig neithiwr ac echnos rhwng protestwyr o blaid ac yn erbyn Hosni Mubarak.

Mae Hosni Mubarak, 82 oed, wedi dweud ei fod eisiau ildio’r awenau ond mae’n pryderu y byddai grwpiau Mwslimaidd eithafol yn dod i rym petai’n gadael yn syth.

‘Hygrededd’

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi annog llywodraeth yr Aifft i sicrhau bod y newid i ddemocratiaeth yn un esmwyth.

“Os ydym ni’n gweld labystiaid wedi eu llogi gan y wladwriaeth yn ymosod ar brotestwyr ar strydoedd Cairo heddiw, fe fydd y llywodraeth yn colli pob hygrededd,” meddai.

“Mae angen i’r Aifft ddangos fod yna lwybr credadwy a clir tuag at ddemocratiaeth. Hyd yn hyn dyw’r llywodraeth ddim wedi cwrdd â gofynion y bobol.”