Christine Lagarde
Mae Pennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio rhag hunanfoddhad ynglŷn â’r sefyllfa ariannol fyd-eang, er bod pethau wedi gwella yn dilyn y cytundeb diweddar am ddyled Groeg.

Dywedodd Christine Lagarde mewn cynhadledd yn Bejing fod angen  i wledydd datblygedig gryfhau eu systemau ariannol a delio â dyled uchel.

Dywedodd hefyd fod yn rhaid i wledydd sy’n datblygu wella eu hamddiffynfeydd rhag sgegiadau allanol.

“Mae economi’r byd wedi camu nôl o’r dibyn ac mae gennym resymau dros fod ychydig bach yn fwy optimistaidd,” meddai. “Ond ni ddylai optimistiaeth roi cysur inni ac yn bendant ni ddylai ein suo ni yn gamarweinol i deimlo’n ddiogel.”

Mi fyddai’r adferiad economaidd byd-eang yn “farathon nid yn ras gyflym,” meddai.