Mae 12 o filwyr Gwlad Twrci wedi marw heddiw mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan.

Yn ôl Byddin Twrci nid ydyn nhw’n gwybod eto pam y bu i’r hofrennydd gael damwain.

Roedd adroddiadau bod yr hofrennydd wedi taro tŷ gafodd ei chwalu. Bu swyddogion achub yn chwilio drwy’r rwbel i geisio gweld a oedd mwy wedi eu hanafu neu farw.

Syrthiodd yr hofrennydd o’r awyr yn ardal Hassian Khail o Kabul.