Vladimir Putin, arlywydd Rwsia
Mae miloedd o brotestwyr yng nghanol Moscow heddiw’n galw am ymddiswyddiad yr arlywydd Vladimir Putin – gan honni iddo ennill yr etholiad ddydd Sul diwethaf trwy dwyll.

Fe fu’n rhaid i Putin, arlywydd Rwsia rhwng 2000 a 2008, roi’r gorau iddi yn 2008 oherwydd rheolau cyfansoddiadol y wlad ar dymhorau arlywyddion. Fodd bynnag, ar ôl ennill 64% o’r bleidlais ddydd Sul, fe fydd yn ôl yn y Kremlin am y chwe blynedd nesaf.

Mae’r protestwyr heddiw’n gwrthod cydnabod canlyniadau’r bleidlais honno. “Nid etholiadau oedd y rhain. Nid arlywydd yw hwn,” yw’r neges ar un o’r baneri.

“Dydw i ddim yn meddwl bod yr etholiad yn deg,” meddai Elizaveta Chernysheva, myfyrwraig 18 oed. “Mae llawer o dwyll wedi bod.”