Vladimir Putin
Mae Vladimir Putin wedi hawlio buddugoliaeth ysgubol yn etholiad arlywyddol Rwsia, ac yn dychwelyd i fod yn ben ar y Kremlin am dymor o chwe blynedd arall.

Gyda deigryn yn ei lygaid, cyhoeddodd Putin o flaen torf o gefnogwyr ym Mosgo eu bod nhw wedi curo gwrthwynebwyr oedd yn benderfynol o “chwalu grym Rwsia”, ond mae amheuon wedi codi ynghylch pa mor deg oedd yr etholiad.

Roedd Putin yn geffyl blaen o’r cychwyn cyntaf ac yn ystod ei 12 mlynedd yn y Kremlin roedd wedi magu delwedd gyhoeddus fel y dyn oedd yn mynd i roi sefydlogrwydd i Rwsia ac amddiffyn y wlad ar y llwyfan rhyngwladol.

Etholiad yn ‘llwgr’

Hawliodd Putin fuddugoliaeth ar ôl i lai na chwarter y pleidleisiau gael eu cyfri. Gyda dros 90% o’r pleidleisiau wedi’u cyfri erbyn hyn mae gan Putin 65% o’r bleidlais meddai’r Comisiwn Etholiadol Canolig yn Rwsia.

Dywedodd Golos, sefydliad sy’n goruchwylio etholiadau, eu bod nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau o bobl yn cael eu cludo ar fysys i orsafoedd pleidleisio gwahanol ac yn taro pledlais sawl gwaith yn olynol.

Honnodd Alexei Navalny, un o arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn Putin, fod yr etholiad wedi bod yn llwgr.

“Fe benderfynon nhw y byddai ail rownd yn ganlyniad gwael ac yn dangos gwendid. Dyna pam y gwnaethon nhw drefnu’r canlyniad trwy dwyll”.

Wrth annerch ei gefnogwyr dywedodd Vladimir Putin: “Dywedais i y byddwn ni’n ennill a dyna beth rydym ni wedi gwneud. Rydym ni wedi ennill mewn brwydr lân ac agored”.