Y cawell fu'n dal calon Laurence O' Toole
Mae lladron wedi dwyn calon nawddsant Dulyn o Eglwys Gadeiriol Christ Church y ddinas.

Cipiwyd calon y Sant Laurence O’ Toole o Gapel Sant Lauds o fewn yr eglwys gadeiriol. Roedd yn cael ei gadw mewn cist bren siâp calon o fewn cawell haearn.

Mae’r gardai yn credu ei fod wedi ei gymryd ryw ben rhwng neithiwr a tua 12.30pm y prynhawn ma.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o greiriau sanctaidd sydd wedi eu dwyn yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Dywedodd llefarydd ar ran Eglwys Gadeiriol fod y lladron wedi anwybyddu bob math o addurniadau euraid er mwyn cipio’r crair di-werth.

“Mae’n hollol ryfeddol,” meddai. “Roedden nhw eisiau calon Laurence O’Toole. Doedden nhw ddim wedi cyffwrdd unrhyw beth arall.”

Ym mis Ionawr cafodd un o greiriau Sant Brigid ei ddwyn o eglwys wrth i addolwyr baratoi ar gyfer dydd gŵyl y sant.

Ym mis Hydref yn Swydd Tipperary cafodd crair arall, darn honedig o’r groes sanctaidd, ei ddwyn.

Mae Gardai wedi apelio am lygaid-dystion i’r hyn ddigwyddodd.