Mae storm nerthol yn yr Unol Daleithiau wedi dinistrio dwy dref, gan ladd o leiaf 24 o bobol yn nhaleithiau Ohio ac Indiana.

Roedd difrod sylweddol i drefi Marysville ac Henryville yn Indiana, oedd yn gartref i tua 2,000 o bobol yr un.

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa Siryff Swydd Clark fod “Marysville wedi ei ddinistrio yn gyfan gwbl”.

Mae ffilm saethwyd gan hofrennydd sianel newyddion dros Henryville yn dangos sawl tŷ sydd wedi colli eu toeau, a malurion yn eu hamgylchynu ym mhobman.

Dywed gohebydd ar ran yr Associated Press oedd wedi cyrraedd y dref bod tolciau anferth yn y ceir ble’r oedd cenllysg maint pêl fas wedi syrthio o’r awyr.

Roedd yr ysgol uwchradd yn y dref yn cynnal gwersi pan gafodd ei daro gan dornado, meddai, ond ni chafodd unrhyw un ei anafu’n ddifrifol.

Daw’r storm dyddiau yn unig wedi i 13 o bobol gael eu lladd gan gorwyntoedd yn Tennessee.