Mae hunanfomiwr wedi lladd 23 o bobol mewn ymosodiad ym Mhacistan.
Bu ffrwydriad yn Nyffryn Tirah ger y ffin gydag Afghanistan.
Targed y bom oedd criw y Lashkar-e-Islam, yn ôl swyddog.
Mae un o reolwyr y Taliban Pacistanaidd wedi hawlio’r cyfrifoldeb am yr ymosodiad, mewn galwad ffôn I Associated Press.
Mae’r ddau griw – y Lashkar-e-Islam a’r Taliban Pacistanaidd – wedi body n brwydro i gael rheoli Dyffryn Tirah.