Yr Arlywydd Bashar Assad
Yn ôl adroddiadau mae gwrthryfelwyr yn Syria sy’n brwydro yn erbyn lluoedd yr Arlywydd Bashar Assad wedi tynnu nôl o ranbarth Baba Amr  er mwyn arbed bywydau’r 4,000 o drigolion yno sy’n gwrthod gadael eu cartrefi.

Mae Baba Amr wedi dioddef ymosodiad didrugaredd am bron i fis ac mae’n ymddangos bod Byddin Rhyddid Syria wedi penderfynu gadael ar ôl dod i gytundeb gyda lluoedd Syria.

Mae’n ymddangos bod Baba Amr bellach yn nwylo lluoedd y Llywodraeth.

Roedd na adroddiadau heddiw bod lluoedd yr Arlywydd Assad yn amgylchynu Homs a’u bod yn bwriadu cynnal ymosodiad ffyrnig ar y ddinas.

Llysgenhadaeth DU

Yn y cyfamser mae’r DU wedi tynnu eu staff diplomyddol o Syria ac wedi cau’r llysgenhadaeth yn Namascus oherwydd pryder am eu diogelwch, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor William Hague.

Roedd y llysgennad Simon Collis a’i staff wedi gadael Syria ddoe yn dilyn penderfyniad bod y sefyllfa yno wedi gwaethygu i’r fath raddau fel bod eu diogelwch mewn perygl.

Daw’r penderfyniad ar ôl i William Hague alw ar luoedd Llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad i roi’r gorau i’r trais.

Mewn datganiad i’r Senedd dywedodd William Hague nad oedd y penderfyniad i dynnu staff y llysgenhadaeth o Syria yn “lleihau ymrwymiad y DU mewn unrhyw ffordd i barhau i roi pwysau ar Lywodraeth Assad i ddod â diwedd i’r trais.”