Jean Dujardin
Mae George Clooney a Meryl Streep wedi ennill gwobrau yn seremoni’r Golden Globes oedd yn cael ei gyflwyno gan Ricky Gervais neithiwr.

Y ffilm ddi-sain du a gwyn The Artist ennillodd y mwyaf o wobrau yn y seremoni Americanaidd gan gynnwys y sioe gerdd neu gomedi orau a’r actor gorau mewn sioe gerdd neu gomedi, Jean Dujardin.

Fe enillodd drama ITV 1 Downton Abbey wobr am y gyfres deledu orau.

Fe wnaeth y Ddrama deulu, The Descendants hawlio dwy wobr,  un am y ddrama orau a’r llall i’r actor gorau George Clooney.

Hefyd, fe wnaeth Meryl Streep ennill gwobr am ei rhan fel Margaret Thatcher yn y ffilm The Iron Lady, ei wythfed gwobr Golden Globe.

The Adventures Of Tintin gan Steven Spielberg enillodd y ffilm wedi animeiddio.