Mae adran wleidyddol y Taliban wedi dweud eu bod yn barod i gynnal trafodaethau heddwch i geisio dod â rhyfel Afghanistan i ben.
Ond, yn y cyfamser, fe fydd gwrthryfelwyr yn parhau i frwydro’u hachos, meddai’r Taliban mewn datganiad.
Fe ddywedodd Zabiullah Mujahid, llefarydd ar ran y Taliban fod gwrthryfelwyr wedi bod yn brwydro am y 15 blynedd diwethaf i “sefydlu Llywodraeth Islamaidd yn Afghanistan yn unol â dymuniadau’r bobl.”
“I’r pwrpas hwn, ac i ddod a heddwch a sefydlogrwydd i Afghanistan yr ydan ni wedi cynyddu ein hymdrechion gwleidyddol i ddod i gytundeb gyda’r byd a datrys y sefyllfa gyfredol,” meddai.
Ond, roedd yn pwysleisio “nad yw’r neges yn golygu bod jihad yn ildio nac ychwaith yn cytuno â gweinyddiaeth Kabul.”
Un o amodau’r gymuned ryngwladol a Llywodraeth Afghanistan dros gymodi yw y dylai’r Taliban dderbyn cyfansoddiad Afghanistan. Mae hyn y golygu derbyn Llywodraeth Karzai.
Ond, mae ymwrthodiad llwyr Zabiullah Mujahid o hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd sawl rhwystr i’r broses heddwch.
Mae sibrydion wedi bod ar led am y posibilrwydd o sgyrsiau heddwch ar ol degawd o ymladd rhwng y glymblaid mae’r Unol Daleithiau yn ei arwain yn Afghanistan a’r Taliban yn Qatar.