Carchar Monroe
Daethpwyd o hyd i gorff gard oedd wedi ei dagu i farwolaeth mewn capel carchar yn yr Unol Daleithiau ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran Carchardai Talaith Washington eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff Jayme Biendl, 34, yng nghapel Carchar Monroe.

Roedd yna garcharor yn lobi’r capel a dywedodd wrth swyddogion ei fod wedi ceisio dianc.

Dyw’r heddlu ddim yn siŵr eto ai’r carcharor oedd yn gyfrifol am dagu Jayme Biendl.

Dywedodd llefarydd ar ran undeb gweithwyr Teamsters 117 bod Jayme Biendl wedi cwyno mai ef oedd yr unig swyddog yn y capel, gan ddweud nad oedd yn teimlo’n saff.