Mae Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi wfftio adroddiadau y bydd yn ymddiswyddo er mwyn i lywodraeth newydd gyflwyno newidiadau economaidd, hyd yn oed wrth i gyfraddau llog yr Eidal gyrraedd uchelfannau newydd yn Ewrop.


Silvio Berlusconi
Yn yr wythnosau diwethaf, mae’r Eidal wedi dod yn ganolbwynt newydd i bryderon dros argyfwng yr Ewro, gan fod ei dyledion yn anferth, ei thŵf yn araf, a’i heconomi yn rhy fawr i’w achub.

Mae buddsoddwyr eisiau i’r llywodraeth basio mesurau i ysgogi tŵf, a thorri dyled – ond mae mwyafrif Berlusconi yn y senedd yn gwanhau bob dydd.

Mae ’na bryder cynyddol mai Silvio Berlusconi ei hun yw’r broblem, gan nad yw bellach yn ennyn digon o deyrngarwch ymhlith Aelodau Seneddol i sicrhau’r newidiadau cyflym y mae swyddogion ariannol Ewropeaidd a rhyngwladol yn dweud sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae llywodraeth clymbleidiol Berlusconi wedi colli nifer o’u cefnogwyr, ac mae’r posibilrwydd o gael etholiad cynnar yn cynyddu.

Y pryder mwyaf yw y bydd yr Eidal yn gorfod gofyn am gymorth ariannol gan wledydd eraill, er mwyn delio â dyled y wlad, sydd yn £1.6 triliwn.

Byddai hynny’n ormod o faich ariannol i Ewrop ei gynnal, ac fe allai fethdaliad yr Eidal rwygo 17 gwlad yr Ewro.