George Papandreou
Mae Prif Weinidog Gwlad Groeg wedi penderfynu peidio â chynnal refferendwm am y pecyn ariannol i achub economi’r wlad.

Yn ôl dau o’i  swyddogion, roedd George Papandreou wedi dod i’w benderfyniad yn ystod cyfarfod brys o’i Gabinet yn Athen heddiw.

Dywedodd un o’r swyddogion na fyddai George Papandreou yn ymddiswyddo er gwaetha’r pwysau arno, ac y byddai’n aros i weld beth fyddai canlyniad pleidlais o hyder yn ei lywodraeth ddydd Gwener.

Roedd rhai o’i weinidogion ef ei hun wedi gwneud yn glir nad ydyn nhw am adael rhanbarth yr Ewro.