Bu’n rhaid i awyren yn cludo 230 o deithwyr lanio ar frys yn Warsaw heddiw ar ôl i’r offer glanio fethu ag agor.

Chafodd neb ar yr awyren Boeing 767 o Newark, New Jersey  eu hanafu, yn ôl llefarydd ar ran LOT, y cwmni awyrennau Pwylaidd oedd yn gyfrifol am yr awyren.

Roedd y peilotiaid wedi darganfod bod na broblem gyda’r offer glanio ac wedi bod yn hedfan uwchben y maes awyr am awr cyn glanio’r awyren heb yr olwynion.

Fe fydd y maes awyr ar gau tan ddydd Mercher.