Mae Donald Trump yn dweud y bydd cyfarfod gwledydd y G7 yn cael ei ohirio tan yr hydref, wrth iddo ddweud ei fod e hefyd eisiau gweld mwy o wledydd yn ymuno â’r grŵp.

Yn ôl arlywydd yr Unol Daleithiau, mae angen diweddaru delwedd y grŵp nad yw’n cynrychioli “yr hyn sy’n digwydd yn y byd”.

Mae lle i gredu ei fod e am weld nifer o gyfeillion yr Unol Daleithiau’n ymuno â’r grŵp, ac yn enwedig y rhai sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws, er mwyn trafod dyfodol gwleidyddol Tsieina.

Gallai’r rhain gynnwys Rwsia, Awstralia, De Corea ac India, ond un sy’n gwrthwynebu aelodaeth bosib Rwsia yw Justin Trudeau, prif weinidog Canada.

Y gwledydd sy’n aelodau ar hyn o bryd yw Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Japan, y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.

Roedd disgwyl i’r aelodau gyfarfod yn yr Unol Daleithiau o Fehefin 10-12 cyn i ymlediad y coronafeirws darfu ar y cynlluniau, ac mae lle i gredu bod Donald Trump yn ffafrio cyfarfod wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar ffurf technoleg fideogynadledda.

Mae lle i gredu iddo wylltio’r wythnos hon o glywed na fyddai Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, yn barod i gyfarfod wyneb yn wyneb yn sgil y feirws.