Mae dau o blant a baban yn y groth wedi cael eu lladd gan heddlu Cenia wrth iddyn nhw geisio arestio’u tad.

Roedd Mohamed Mapenzi o ardal Kibundani yn sir Kwale wedi’i amau o fod yn eithafwr Islamaidd oedd yn ymwneud ag al-Qaida, ac fe ddefnyddiodd ei blant fel tarian rhag bwledi’r heddlu wrth iddyn nhw chwilio am arfau yn ei gartref.

Mae lle i gredu bod aelod o’r grŵp al-Shabab yn Somalia wedi cyfeirio’r heddlu at ei gartref.

Mae adroddiad yr heddlu’n dweud bod y dyn wedi gwrthod agor y drws ond wrth iddyn nhw baratoi i dorri’r drws i lawr, ei fod e wedi taflu ffrwydryn atyn nhw, gan anafu un ohonyn nhw.

Cafodd gwraig y dyn a dau o blant eraill eu hanafu.

Yn ôl y grŵp hawliau dynol Haki Africa, fe ddefnyddiodd yr heddlu ormod o rym yn ystod y cyrch.