Mae o leia’ pedwar person wedi cael eu lladd a dros 100 wedi eu hanafu ar ôl ffrwydrad yn ne-orllewin China.

Yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol Xinhua, digwyddodd y ffrwydrad ger heol gyflym yn ninas Fuquan yn nhalaith Guizhou, gan ddinistrio sawl cartref. Doedd dim manylion eraill i’w cael gan yr asiantaeth.

Yn ôl aelod yn swyddfa Plaid Gomiwnyddol y ddinas, aeth tri cerbyd oedd yn cludo ffrwydron ar dân mewn garej. Mae’n debyg bod y ffrwydrad wedi chwalu’r garej a warws gerllaw.

“Galla’ i ddim dweud yn union faint sydd wedi mynd ar goll gan fod gymaint o lanast yna, yn ardal y ffrwydrad,” meddai.

“Cafodd o leia’ 100 o bobol eu cludo i sawl ysbyty,” meddai wedyn, ar ôl bod draw i weld y dinistr.

Yn ôl adroddiadau mae’r awdurdodau nawr yn edrych trwy’r dinistr. Mae nhw’n gyfarwydd iawn â damweiniau a ffrwydradau o’r fath oherwydd safonau diogelwch isel.