George Panandreou
Mae Prif Weinidog gwlad Groeg wedi creu ansicrwydd yn y marchnadoedd arian heddiw ar ôl iddo gyhoeddi ei fod yn bwriadu cynnal refferendwm ar y cynllun i achub yr ewro.

Fe agorodd y FTSE 100 2% yn is yn dilyn cyhoeddiad George Papandreou.

Yn ôl Michael Hewson, o gwmni CMC Markets,  os ydy gwald Groeg yn pleidleisio yn erbyn y cynllun i achub yr ewro fe allai greu ansefydlogrwydd sylweddol yn Ewrop ac ymhlith banciau Ewropeaidd.

Mae na bryderon hefyd bod economi Cheina yn dioddef are ôl i’r wlad gyhoeddi ffigurau isel ar gyfer y diwydiant gwneuthuro.