Mae ffrae ar y gweill rhwng India a Nepal tros heol sy’n croesi’r ffin rhwng y ddwy wlad.
Mae India yn gwadu honiadau gan Nepal fod yr heol yn croesi’r ffin yn anghyfreithlon a bod llywodraeth Narendra Modi yn anwybyddu ffrae hirdymor gyda Tsieina a Tibet.
Yr heol 50 milltir yw’r llwybr byrraf rhwng Delhi Newydd a Kailash-Mansarovar, cyrchfan addoli ar gyfer Hindwiaid, ac mae’n torri trwy Lipu Lekh, un o’r llwybrau masnach gorau rhwng India a Tsieina.
Mae Nepal yn gwadu honiadau India fod ganddyn nhw rwydd hynt i reoli’r heol, oedd yn rhan o dalaith Uttarakhand yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae Nepal yn honni bod India’n eu bwlio’n gyson ynghylch yr heol, ond mae India’n mynnu bod yr heol yn gyfangwbl o fewn eu ffiniau.
Mae sawl ffrae debyg wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.