Mae’r Llywydd Bashar al-Assad o Syria wedi rhybuddio arweinwyr a llywodraethau’r gorllewin y bydd yna “ddaeargryn” yn digwydd os y byddan nhw’n ceisio ymyrryd yng ngwleidyddiaeth y wlad.

Ychwanegodd y gall unrhyw ymyrraeth droi Syria yn Affganistan arall.

Roedd yr Arlywydd yn cynnal cyfweliad prin efo papur newydd y Sunday Telegraph ac roedd ei sylwadau yn ymateb yn uniongyrchol i alwad gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar i Syria roi’r gorau i geisio llethu’r gwrthwynebiad yn erbyn y llywodraeth yno.

Mae dros 3,000 o bobl wedi marw yn Syria ers i’r protestiadau yn erbyn llywodraeth y Llywydd Bashar al-Assad gychwyn ym mis Mawrth.

Yn y cyfweliad dywed yr Arlywydd ei fod yn credu y bydd y pwysau yn cynyddu o du’r gorllewin.

“Syria yw canolbwynt yr ardal yma rwan” meddai. “Dyma’r man gwan ac os y byddwch yn chwarae efo’r tir fe fyddwch yn achosi daeargryn. Bydd unrhyw broblem yn Syria yn llosgi’r rhan yma o’r byd i gyd. Os mai’r cynllun yw rhannu Syria, yna fe fyddwch yn rhannu’r rhanbarth yn gyfangwbl. Ydych chi eisiau gweld Affganistan arall?”

Mae datganiad diweddaraf Ysgrifennydd Cyffredinol y CU Ban Ki-Moon yn dweud bod yn rhaid i’r Arlywydd Assad ymateb i’r gwrthwynebiadau trwy ddiwygio nid trwy lethu a thrais a galwodd arno i roi’r gorau ar unwaith i weithrediadau milwrol.

Yr wythnos diwethaf hefyd anfonodd aelodau’r Gyngrhair Arabaidd “neges brys’ at lywodraeth Syria yn beirniadu’r “lladd parhaol o bobl gyffredin” sy’n gwrthdystio yn ei herbyn.