Mae o leiaf tri o bobl wedi marw ar ôl i fom gan hunan laddwr ffrwydro mewn car ymosododd ar gonfoi o filwyr NATO ym mhrifddinas Affganistan yn gynnar heddiw.

Ymosodwyd ar y confoi ger Palas Darulaman ar gyrion de-orllewin Cabwl.

Dywedodd llygad dyst bod gwr, gwraig a phlentyn wedi cael eu lladd gan y ffrwydriad.

“Roedd yn fom cryf iawn” meddai Gulam Saci “ac fe laddodd tri o bobl gyffredin – mae dau o’r cyrff o dan y car o hyd.

Cyrhaeddodd dau hofrenydd NATO i gludo rhai anafwyd o’r fan ac fe gafodd eraill eu trin ar y palmant

Yn y cyfamser mae gwraig wedi lladd ei hun trwy ffrwydro bom wrth iddi geisio ymosod ar swyddfeydd y llywodraeth ym mhrifddinas talaith Cwnar yn ôl heddlu Affganistan.

Mae’r dalaith yng ngogledd –ddwyrain y wlad ar y ffin efo Pacistan ac yn ganolfan i derfysg milwriaethus.

Dim ond y ddynes fu farw yn y ffrwydriad a chafodd neb ei anafu.