Mae 5,000 o achosion newydd o’r coronafeirws wedi’u hadrodd yn Sbaen ers ddoe (dydd Gwener, Mawrth 20).

Mae 24,926 o achosion erbyn hyn, i fyny o 19,980 24 awr yn ôl.

Mae 1,326 o bobol wedi marw yno, i fyny o 1,002 ddoe.

Mae mwy na 1,600 o gleifion mewn unedau gofal dwys, ac mae’r awdurdodau’n rhybuddio bod gwasanaethau iechyd wedi cyrraedd pen eu tennyn.

Cafodd mesurau arbennig eu cyflwyno ledled Sbaen yr wythnos ddiwethaf, ond mae disgwyl rhagor o achosion cyn bod modd mesur pa mor effeithiol fu’r mesurau.

Gweddill y byd

Yn yr Eidal, mae pryderon nad yw pobol yn dilyn rheolau ynysu eu hunain a gafodd eu cyflwyno bron i bythefnos yn ôl.

Mae’r wlad bellach yn paratoi ar gyfer gwanhau ei heconomi yn sgil y feirws.

Yn yr Almaen, mae ysbytai ar agor yn nhalaith Baden-Württemberg i drin cleifion o ddwyrain Ffrainc wrth i’r wlad honno ei chael yn anodd ymdopi â’r pwysau.

Mae lle i gredu bod mwy nag 20,000 o achosion yn yr Almaen, a bod 70 o bobol wedi marw.