Mae Sri Lanca wedi cau ei ffiniau i deithwyr o wledydd Prydain o ganlyniad i coronavirus.

Fe ddaw ar ôl i dîm criced Lloegr ddod adref yng nghanol taith i’r wlad cyn dechrau’r gemau rhyngwladol.

Mae nifer fawr o gefnogwyr wedi teithio i’r wlad, gan gynnwys aelodau’r Barmy Army, clwb cefnogwyr Lloegr.

Mae’r gwaharddiad yn dod i rym am 6.30 heno (nos Sul, Mawrth 15), ac mae cyngor i bobol beidio â theithio oni bai bod gwir angen.

Mae maes awyr Colombo eisoes wedi atal unrhyw un o wledydd Prydain rhag mynd i mewn i’r wlad.

Yn ôl y Barmy Army, mae 50 o’u haelodau yn Sri Lanca o hyd, ac mae nifer yn rhagor ar eu ffordd yno ar ôl penderfynu cael gwyliau yn hytrach na mynd yno i wylio’r criced.

Mae trafodaethau ar y gweill i gludo pobol adref o’r wlad.