Mae llywodraethau sawl gwlad ar draws y byd wedi cyflwyno mesurau llym i fynd i’r afael â coronavirus.

Mae Sbaen a Ffrainc ymhlith y gwledydd sy’n gweithredu’n llym.

Mae disgwyl cyhoeddi argyfwng yn Sbaen a fydd yn para am bythefnos, a hynny ar ôl i wraig y prif weinidog Pedro Sanchez a dau aelod o’i gabinet brofi’n bositif am y firws.

Mae mesurau mewn grym sy’n debyg i’r rhai yn yr Eidal, lle all pobol ddim ond gadael eu cartrefi i brynu bwyd a meddyginiaeth, mynd i’r gwaith, yr ysbyty neu i’r banc, neu i ofalu am yr hen a’r ifanc.

Mae’r holl ysgolion a phrifysgolion ynghau, yn ogystal â bwytai, bariau, gwestai a busnesau eraill.

Tsieina, yr Eidal, Iran, De Corea a Sbaen sydd â’r nifer fwyaf o achosion ar hyn o bryd, gyda mwy na 5,700 yn Sbaen a 136 o farwolaethau.

Y Ffilipinas

Yn y Ffilipinas, mae mesurau newydd yn eu lle ym Manila sy’n cyfyngu ar deithio i mewn ac allan o’r brifddinas.

Mae gwaharddiad ar gynulliadau mawr, ac fe fydd swyddfeydd y llywodraeth yn cau am fis.

Ffrainc

Mae nifer o atyniadau Paris ynghau, yn ogystal â bwytai, caffis, theatrau a siopau o heddiw (dydd Sul, Mawrth 15) ymlaen.

Mae o leiaf 3,600 o achosion yn Ffrainc, lle mae cynulliadau o fwy na 100 o bobol wedi’u gwahardd, ac mae gofyn i ysgolion gau ac i weithwyr weithio o adref.

Ond mae etholiadau lleol wedi’u cynnal yn y wlad heddiw, lle mae gofyn i bobol gadw pellter rhwng ei gilydd.

Gweddill y byd

Dyma grynodeb o’r mesurau mewn rhai gwledydd eraill:

  • Bydd rhaid i deithwyr i Awstralia ynysu eu hunain am 14 diwrnod o ddydd Llun (Mawrth 16)
  • Mae gofyn i ddulliau cynhyrchu bwyd a chyflenwadau iechyd barhau yn yr Eidal, lle mae mwy na 21,000 o achosion a 1,400 o farwolaethau
  • Mae ffiniau Denmarc wedi’u cau a chyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o’r wlad
  • Mae Gwlad Pwyl wrthi’n cau ei ffiniau ac atal mynediad i bawb o dramor oni bai eu bod nhw’n byw yn y wlad neu fod ganddyn nhw gysylltiadau personol yno. Mae camau tebyg wedi’u cyflwyno yng Ngweriniaeth Tsiec, Slofacia a Lithwania
  • Mae disgwyl i Rwsia gau ei ffiniau â Norwy a Gwlad Pwyl i dramorwyr
  • Bydd gofyn i drigolion Seland Newydd ynysu eu hunain am 14 diwrnod

Nifer yr achosion

Mae 21 o bobol wedi marw yng ngwledydd Prydain, lle mae mwy na 1,100 o achosion.

Erbyn dydd Gwener (Mawrth 13), roedd 90 o achosion yn Iwerddon ac un person wedi marw.

Mae 230 o bobol wedi’u heintio yng Ngroeg a thri o bobol wedi marw, wrth i 45 o berchnogion siopau gael eu harestio am fynd yn groes i waharddiad ar fasnachu.

Fe fu 59 o bobol farw yn yr Unol Daleithiau, lle mae mwy na 2,100 o achosion, ac mae’r Arlywydd Donald Trump wedi profi’n negatif ar gyfer y firws ar ôl bod yn ysgwyd dwylo â sawl person, yn groes i gyngor.