Bydd chwe thalaith yn yr Unol Daleithiau’n pleidleisio yn y ras arlywyddol heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 10).

Mae’n ddiwrnod allweddol yn y ras i fod yn ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, gyda dim ond dau ymgeisydd credadwy ar ôl, Bernie Sanders a’r Is-Arlywydd Joe Biden.

Bydd Joe Biden, sy’n 77 oed, yn gobeithio sefydlu ei statws fel y ceffyl blaen wythnos yn unig ar ôl atgyfodi ei ymgyrch wrth ennill mewn sawl talaith ar Ddydd Mawrth Mawr.

Mae Bernie Saunders, sy’n 78 oed, mewn brwydr i adennill y momentwm gyda’r pleidleisio mewn taleithiau a allai ffafrio Joe Biden.

Heddiw fydd y tro cyntaf i bleidleiswyr Democrataidd bleidleisio ers i’r ornest droi’n ras rhwng dau berson, i bob pwrpas.

Bydd yn brawf i Bernie Saunders i weld a fydd e’n gallu lledu ei apêl ymysg Americanwyr Affricanaidd, tra bod yn rhaid i Joe Biden gadw’r momentwm yn dilyn Dydd Mawrth Mawr.

Elizabeth Warren

Y cwestiwn mwyaf wrth i’r chwe thalaith baratoi i beidleisio yw pwy mae seneddwr Massachusetts Elizabeth Warren, wnaeth ddisgyn allan o’r ras wythnos diwethaf, yn mynd i’w gefnogi.

Hyd yn hyn, mae hi wedi gwrthod cefnogi’r un o’r ddau ymgeisydd, sy’n ddatblygiad rhwystredig i Bernie Saunders, a allai fanteisio arni hi i uno aelodau blaenllaw yn yr un ffordd ag y mae Joe Biden wedi uno aelodau cymedrol.

Mae Bernie Saunders wedi wfftio’r awgrym y gallai ddisgyn allan o’r ras os nad yw’n ennill Michigan.