Mae rhagor o achosion o’r coronavirus wedi dod i’r amlwg yn Tsieina a De Corea, gyda chlystyrau o’r firws wedi ymddangos yn Ewrop a’r Dwyrain Canol.

Mae marchnadoedd o gwmpas y byd wedi dirywio yn sgil y firws, gyda Wall Street a’r Dow Jones yn dioddef yn arbennig.

Yn Beijing, mae llywodraeth Tsieina wedi gohirio cyfarfodydd gwleidyddol pwysicaf y flwyddyn.

Ac yn yr un modd, mae’r coronavirus wedi codi’r pwysau ar Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithau, wrth i’w weinyddiaeth ddod o dan bwysau am y ffordd maen nhw wedi delio â’r firws.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi galw am $2.5 biliwn o arian y llywodraeth er mwyn brwydro’r firws.

Roedd 508 o achosion newydd a 71 o farwolaethau yn Tsieina ddydd Mawrth (Chwefror 25), gyda 68 ohonyn nhw yn ninas Wuhan, lle dechreuodd yr epidemig fis Rhagfyr.

Mae 77,658 o achosion a 2,663 o bobol wedi marw yn Tsieina bellach.

De Corea sydd â’r ail nifer fwyaf o achosion gyda 893, gyda 60 achos newydd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 25).