Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu canslo yn yr Eidal o ganlyniad i’r coronavirus.

Mae o leiaf 133 o achosion yn y wlad erbyn hyn, y nifer fwyaf yn unrhyw un o wledydd Ewrop.

Ymhlith y digwyddiadau sydd wedi’u canslo mae carnifal Veneto, sy’n denu degau o filoedd o bobol i’r ddinas dros gyfnod o sawl diwrnod, a’r gêm rygbi rhwng merched yr Eidal yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn ogystal â sawl gêm bêl-droed yn Serie A, prif adran y wlad.

Mae tri o bobol wedi cael profion positif yn ninas Fenis, a phob un ohonyn nhw’n bobol oedrannus. Maen nhw mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’r rhan fwyaf o achosion yng ngogledd y wlad.

Mae eglwysi wedi cael cyfarwyddiadau ynghylch sut i atal yr haint rhag lledu yn ystod defodau’r Sul.

Mae lle i gredu mai trigolion o Tsieina ar eu gwyliau ddechrau’r mis yw man cychwyn y firws yn yr Eidal.

Mae dau o bobol wedi marw yn yr Eidal ers i’r firws gyrraedd y wlad.