Mae un person wedi marw a thri arall wedi cael eu hanafu yn dilyn achos o saethu y tu allan i neuadd gyngherddau yn Berlin.

Fe ddechreuodd unigolion saethu y tu allan i’r Tempodrom ger Potsdamer Platz yn Berlin neithiwr (nos Wener, Chwefror 14), cyn llwyddo i ffoi.

Dydy hi ddim yn glir pam fod yr ymosodiad wedi digwydd, ond mae awgrym y gallai fod yn gysylltiedig â noson gomedi y tu fewn i’r adeilad.