Mae’r wraig gyntaf i fod yn gyfrifol am gosbi merched sy’n torri cyfraith Sharia yn Indonesia, wedi gwneud ei gwaith.
Mae carfan o wragedd bellach wedi’u penodi i bennu ac i weithredu’r cosbau o chwipio i ferched sydd wedi cael eu dyfarnu’n euog o dorri’r gyfraith Islamaidd.
Ddoe yn ardal Aceh yn Indonesia, fe gafodd merch ddibriod ei chwipio yn gyhoeddus wedi iddi gael ei dal mewn ystafell mewn gwesty gyda dyn. Roedd y weithred yn cael ei gweld fel trosedd foesol yn Aceh.
Aceh yw’r unig ardal yn Indonesia i weithredu cyfraith Sharia. .