Mae o leiaf dau o bobol wedi eu saethu’n farw a 15 o rai eraill wedi’u hanafu wedi i berson danio gwn atyn nhw wrth iddyn nhw giwio tu allan i far yn Kansas City, Missouri.
Dechreuodd y saethu toc cyn hanner nos neithiwr (nos Sul, Ionawr 19).
Cafodd dau berson eu darganfod yn farw, gan gynnwys dynes mewn maes parcio. Mae’r heddlu’n credu bod y person sy’n cael ei amau o’r saethu yn un o’r bobl fu farw a’i fod wedi cael ei saethu gan swyddog diogelwch arfog.
Mae o leiaf tri o’r rhai gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r digwyddiad.