Mae’n bosib bod yna gysylltiad rhwng yfed te a hyd eich oes, yn ôl gwyddonwyr.

Mae gwaith ymchwil newydd yn dangos bod y rheiny sydd yn yfed te yn rheolaidd yn wynebu risg is o ddatblygu clefyd y galon a phroblemau eraill.

Roedd 100,902 o bobol ynghlwm â’r astudiaeth, a chawsom eu rhannu’n ddau grŵp – y rheiny sy’n yfed tair paned neu fwy’r wythnos, a’r rheiny sy’n yfed llai na hynny. 

Mae’r canfyddiadau yn awgrymu bod person 50 oed sy’n yfed te’n fynych yn byw 1.26 blynedd yn hirach na pherson sydd prin yn yfed y ddiod.

Hefyd, yn ôl y gwaith ymchwil, mae te gwyrdd yn cael mwy o effaith ar bobol na the du.

Ffigurau

O gymharu â’r rheiny sydd ddim yn yfed te yn rheolaidd, mae pobol sydd yn yfed te yn rheolaidd yn wynebu:

  • Risg 20% yn llai o brofi clefyd y galon a strôc
  • Risg 22% yn llai o brofi clefyd y galon a strôc a all ladd
  • Risg 15% yn llai o farwolaeth ym mhob achos

Academyddion o Academi Gwyddorau Meddygol Tsieina, yn Beijing, oedd ynghlwm â’r gwaith ymchwil yma.