Mae arweinwyr Ewrop wedi cytuno i newid cytundeb yr Undeb Ewropeaidd os oes rhaid er mwyn ceisio datrys argyfwng dyled yr eurozone.

Dywedodd arlywydd yr Undeb Ewropeaidd Herman Van Rompuy ar ddiwedd diwrnod o drafodaethau brys ym Mrwsel y byddai’r aelodau yn ymchwilio i’r posibilrwydd o newid cyfyngedig.

Bydd cyfarfod arall o holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal dydd Mercher.