Fe fydd Sydney yn cynnal eu noson tan gwyllt i ddathlu’r Flwyddyn Newydd er bod dinasoedd eraill yn Awstralia wedi canslo eu dathliadau oherwydd bod y tanau gwyllt yn y wlad yn gwaethygu.

Roedd pwysau wedi bod yn cynyddu ar Sydney i ganslo’r digwyddiad cyn i Wasanaeth Tan New South Wales gymeradwyo cynnal y digwyddiad heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 30).

Mae disgwyl i’r dathliadau ddenu mwy na miliwn o bobol i Harbwr Sydney a chyfrannu £69m i’r economi.

Mae naw o bobol wedi cael eu lladd gan y tanau gwyllt ac mae mwy na 1,000 o gartrefi ar draws y wlad wedi cael ei difrodi yn y misoedd diwethaf.

O’r 97 o danau sy’n llosgi ar draws New South Wales nid yw 43 ohonyn nhw o dan reolaeth ar hyn o bryd. Mae gwaharddiad llwyr ar gynnau tanau yn Sydney, Canberra a llefydd eraill er mwyn atal tanau newydd.

Roedd disgwyl i’r tymheredd godi i 33C yn Sydney ddydd Mawrth (Nos Galan) gyda mwg trwchus i’w weld yn y ddinas. Ac mae disgwyl i’r sefyllfa waethygu yfory yn ôl Comisiynydd y Gwasanaeth Tan Shane Fitzsimmons.

“Risg”

Roedd prif weinidog Awstralia Scott Morrison wedi dweud y dylai’r tan gwyllt yn Sydney gael eu cynnal er mwyn dangos cryfder Awstralia i’r byd.

Ond roedd dirprwy arweinydd New South Wales John Barilaro wedi dweud y dylid canslo’r digwyddiad gan fod gormod o risg a bod yn rhaid “parchu ein diffoddwyr tan gwirfoddol”.

Yn Victoria, mae miloedd o drigolion ac ymwelwyr wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi oherwydd y tanau gwyllt. Roedd y tymheredd yn Melbourne wedi cyrraedd 41C ddydd Llun (Rhagfyr 30). Mae disgwyl i’r sefyllfa waethygu yn ddiweddarach oherwydd gwyntoedd cryfion a stormydd a fydd yn achosi i’r tanau gwyllt ledu.