Mae pump o bobol wedi cael eu hanafu mewn achos o drywanu yng nghartref rabbi yn Efrog Newydd, wrth iddyn nhw ddathlu Gŵyl y Cysegriad (hanukkah).

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau ar Iddewon yr ardal, yn dilyn ymosodiad tebyg yn New Jersey ddechrau’r mis.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 10 o’r gloch y nos yn ardal Monsey, un o’r trefi yn Hudson sydd wedi gweld nifer fawr o Iddewon yn mewnfudo dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gerbyd yn dilyn yr ymosodiad diweddaraf, ac mae lle i gredu bod dyn yn y ddalfa.

Mae pump o bobol yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Dydy’r awdurdodau ddim wedi cynnig rheswm am yr ymosodiad hyd yn hyn.

Ddechrau’r mis, cafodd chwech o bobol Iddewig eu saethu’n farw yn New Jersey ac ers Rhagfyr 13, mae heddlu Efrog Newydd wedi derbyn adroddiadau am o leiaf chwech o ymosodiadau gwrth-Iddewig.