Mae cadeirydd pwyllgor sy’n ystyried yr ymgais i uchelgyhuddo Donald Trump yn dweud fod “neb uwchlaw’r gyfraith”.

Mae’r Democratiaid wedi cyhoeddi dwy erthygl yn cefnogi eu cais i uchelgyhuddo arlywydd yr Unol Daleithiau am beryglu gonestrwydd a diogelwch cenedlaethol wrth ymyrryd yn sefyllfa wleidyddol yr Wcráin.

Mae’r rhai sy’n ystyried y cais yn dweud fod ganddyn nhw ddyletswydd i gadw at gyfansoddiad y wlad.

Mae’r ddwy erthygl dan ystyriaeth yn ymwneud â chamddefnyddio grym ac atal gwaith y Gyngres, ac mae disgwyl penderfyniad y pwyllgor ynghylch uchelgyhuddo dros y dyddiau nesaf.

Mae Donald Trump a’r Tŷ Gwyn yn dweud nad oes sail i’r honiadau, ac mae ei ymgyrchwyr yn dweud ei fod yn fater o wleidyddiaeth bleidiol.

Amddiffyniad y Democratiaid

Yn ôl y Democratiaid, doedd ganddyn nhw ddim dewis ond ceisio uchelgyhuddo’r arlywydd yn sgil patrwm o ymddygiad sy’n peryglu’r broses ddemocrataidd ar drothwy’r etholiad arlywyddol nesaf yn 2020.

“Ein harlywydd sydd â’r ymddiriedaeth fwyaf o safbwynt y cyhoedd,” meddai Jerrold Nadler, cadeirydd y pwyllgor.

“Pan fo’n torri’r ymddiriedaeth honno ac yn ei roi ei hun o flaen y wlad, mae’n peryglu’r cyfansoddiad, ein democratiaeth a’n diogelwch cenedlaethol.

“Mae ein hetholiad nesaf mewn perygl, a dyna pam fod rhaid i ni weithredu nawr.

“Does neb, ddim hyd yn oed yr arlywydd, uwchlaw’r gyfraith.”

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Adam Schiff, cadeirydd y pwyllgor cudd-wybodaeth.

“Safwn yma heddiw oherwydd nad yw camddefnydd yr arlywydd o’i rym yn ein gadael ni ag unrhyw ddewis arall,” meddai.

Gwadu’r cyhuddiadau

Mae Donald Trump yn gwrthod amddiffyn ei hun yn y gwrandawiad, ond mae e wedi bod yn gwneud sylwadau ar Twitter.

Mae’n dweud y byddai ei uchelgyhuddo’n “wallgofrwydd pur” ac mae’n dweud nad yw e wedi gwneud “DIM” o’i le.

Mae e wedi amddiffyn ei berfformiad fel arlywydd gan ddweud bod yr economi ar ei chryfaf erioed, a’i fod e ymhlith yr arlywyddion mwyaf llwyddiannus erioed.

Pe bai’r pwyllgor yn penderfynu uchelgyhuddo, fe fyddai’r penderfyniad yn cael ei drosglwyddo i’r Senedd i’w gymeradwyo.

Ond mae gan y Gweriniaethwyr fwyafrif yn y Senedd ac felly, mae’n annhebygol y bydden nhw’n bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau.

Cefndir

Dywed y Democratiaid fod Donald Trump wedi rhoi ei les gwleidyddol o flaen y genedl wrth ofyn i’r Wcráin gynnal ymchwiliad i’w wrthwynebwyr.

Ymhlith y gwrthwynebwyr hynny roedd y Democrat Joe Biden.

Fe wnaeth e ddal 400 miliwn o ddoleri o gymorth milwrol yn ôl wrth i’r Unol Daleithiau herio Rwsia.

Mae’r Democratiaid yn dweud ei fod e wedi eu hatal nhw rhag gwneud eu gwaith wrth gynnal ymchwiliad i’r honiadau.

Fe gyfeiriodd at “us” mewn neges Twitter wrth ofyn am ffafr – ond mae’n mynnu fod “us” yn sefyll am “United States” ac nid “ni, y Gweriniaethwyr”.