Llosgfynydd: Dinasyddion o wledydd Prydain ymhlith y rhai sydd ar goll

Diweddarwyd  
Llosgfynydd Ynys Wen yn Seland Newydd

Llosgfynydd Ynys Wen yn Seland Newydd

Llun; O wefan GNS Science yn Seland Newydd

Mae Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern, wedi cadarnhau bod dinasyddion o wledydd Prydain ymhlith y rhai sydd ar goll neu wedi’u hanafu ar ol i losgfynydd ffrwydro ar Ynys Wen.

Roedd dinasyddion o Seland Newydd, Awstralia, yr Unol Daleithiau, Tsieina a Malaysia hefyd ymhlith yr ymwelwyr ar yr ynys.

Cafodd pump o bobol eu lladd a mwy na 30 eu hanafu pan ffrwydrodd y llosgfynydd yn gynharach heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 9). Mae rhai o’r bobol gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol.

Roedd 47 o bobol wedi teithio i’r ynys heddiw, meddai Jacinda Ardern. Yn ogystal a’r pump fu farw, mae wyth o bobol yn dal ar goll – mae dinesydd o wledydd Prydain yn eu plith.

Ar hyn o bryd mae’n rhy beryglus i dimau achub fynd yn agos at y llosgfynydd ond mae timau sydd wedi hedfan dros y safle yn dweud ei fod yn anhebygol bod unrhyw un wedi goroesi.

Poblogaidd gydag ymwelwyr

Mae Ynys Wen, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Whakaari, yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac mae cychod yn cludo teithwyr yno i weld y llosgfynydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor yn y Deyrnas Unedig eu bod nhw’n ceisio cael “rhagor o wybodaeth” gan yr awdurdodau.

Roedd Jacinda Ardern  wedi teithio i’r ardal heddiw a dywedodd: “Mae ein meddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio.”

Roedd rhai o’r bobol gafodd eu heffeithio yn westeion ar long bleser Royal Caribbean International, Ovation of the Seas.

Dywedodd y cwmni bod nifer o’u gwesteion wedi bod yn ymweld â’r ynys heddiw ac y byddan nhw’n cynnig pob cymorth i’w gwesteion a’r awdurdodau lleol.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones