Mynyddoedd Sbaen
Mae Llywodraeth Sbaen wedi gwrthod trafodaethau gydag Eta, ond wedi croesawu diwedd ar bedair degawd o drais yn dilyn cyhoeddiad y grŵp Basgeg yn addo peidio defnyddio arfau.

Mewn datganiad hanesyddol mae Eta wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi diwedd ar ymgyrch waedlyd 43 blwyddyn dros wladwriaeth Fasgeg annibynnol yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc. Ond nid yw’r grŵp yn derbyn eu bod wedi eu trechu.

Yn hytrach, mae Eta wedi galw ar Sbaen a Ffrainc i gynnal trafodaethau ar y gwrthdaro.

“Does dim byd i drafod gyda Eta,” meddai’r Gweinidog Amddiffyn, Carme Chacon, wrth deledu gwladwriaethol Sbaen cyn ychwanegu nad yw Eta wedi cyflawni “dim o’i amcanion” ac nad yw “degawdau o boen a throsedd wedi’u gwasanaethu mewn unrhyw ffordd”.

Dyma’r arwydd clir gyntaf gan y Llywodraeth na fyddai dêl yn cael ei wneud.

Fe ddywedodd y Gweinidog fod y cyhoeddiad yn nodi “dechrau’r diwedd” a bod rhaid ei reoli mewn modd “deallus”.

Mae gwleidyddion yn Sbaen wedi cymeradwyo penderfyniad Eta, gyda’r Prif Weinidog Jose Luis Rodriguez Zapatero yn dweud bod democratiaeth wedi ennill y dydd.

Mae Eta wedi lladd mwy nag 800 o bobl yn ystod eu brwydr dros wladwriaeth annibynnol. Fe wnaed y cyhoeddiad mewn fideo – lle’r oedd tri dyn oedd yn aelodau o’r grŵp yn gwisgo Berets Basgeg a masgiau defnydd gwyn gyda thyllau ar gyfer eu llygaid.

Ar ddiwedd y clip, maen nhw’n codi eu dyrnau i’r awyr ac yn galw am wladwriaeth Basg ar wahân. Nid yw Eta wedi ymddiheuro am y rhai fu farw oherwydd eu hymgyrch.