Mae o leiaf 58 o bobol wedi marw wedi i gwch yn cario dwsinau o ffoaduriaid droi drosodd yng nghefnfor Iwerydd oddi ar arfordir Mauritania.

Fe lwyddodd 83 o bobol i nofio i’r lan.

Y gred ydi fod y cwch yn cario cyfanswm o 150 o bobol wedi rhedeg yn isel ar danwydd tra’n teithio tua Mauritania. Mae’r bobol hynny sydd wedi goroesi’r digwyddiad yn cael cymorth gan awdurdodau’r wlad yn ninas ogleddol Nouadhibou.

Mae goroeswyr yn dweud fod y cwch, a oedd yn cario merched a phlant, wedi gadael Gambia ar Dachwedd 27.

Mae rhai o’r bobol ar ei fwrdd wedi cael eu cludo i ysbyty yn Nouadhibou.