Mae gwleidydd sydd o blaid llywodraeth Tsieina, wedi ei drywanu yn Hong Kong.

Mae Junius Ho wedi datblygu i fod yn ffigwr y mae’r protestwyr yn ei gasáu oherwydd ei rôl mewn trais yn eu herbyn.

Wedi iddo dderbyn triniaeth feddygol, dywedodd Junius Ho wrth newyddiadurwyr fod cawell ei asennau wedi atal y gyllell gan ei adael gydag anaf bychan.

Mae’r llywodraeth wedi condemnio’r ymosodiad ac yn honni fod yr heddlu wedi arestio’r dyn oedd y gyfrifol.

Mewn fideo sy’n cylchlythyru ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos dyn yn cynnig blodau i Junius Ho ac yn gofyn caniatâd i dynnu llun gyda fo. Yna, mae’r dyn yn tynnu cyllell o’i fag ac yn trywanu Junius Ho a’i alw yn “sgym dynol”.